
Mae'r Arsyllfa Dysgu a Sgiliau yn rhan o Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Ni fydd yr Arsyllfa Dysgu a Sgiliau, Llywodraeth Cynulliad Cymru a chynhalwyr y safle hwn yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am, ac yn eithrio pob atebolrwydd mewn cysylltiad â phori'r safle hwn, defnydd gwybodaeth ar y safle a lawrlwytho unrhyw ddeunydd ohono, gan gynnwys, ond heb gyfyngu i, unrhyw atebolrwydd am wallau, anghysonderau, hepgor unrhyw beth neu ddatganiadau camarweiniol neu sarhaus.
Er y gobeithiwn y cewch gynnwys y wefan hon yn ddiddorol ac yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol, mae'r cynnwys ar gyfer gwybodaeth gyffredinol yn unig. Credwn fod y cynnwys yn wir ac yn gywir ar ddyddiad ysgrifennu'r ymwadiad hwn, ond ni allwn roi sicrwydd na gwarant o safbwynt cywirdeb, na pha mor gyfredol neu addas yw'r cynnwys mewn perthynas â sefyllfaoedd penodol ac amgylchiadau penodol. Fel y mae, ni ddylid dibynnu ar y cynnwys a dylid cymryd cyngor proffesiynol mewn achosion penodol. Yn ogystal â hyn, ni fydd cynnwys y wefan hon yn rhan o unrhyw gontract rhyngom ni nac yn golygu cynnig oddi wrthym ni. Gall ymwadiadau penodol fod yn gymwys yn ogystal â pheth o gynnwys neu rai rhannau o'r safle.
Nid yw'r Arsyllfa Dysgu a Sgiliau a Llywodraeth Cynulliad Cymru am dderbyn unrhyw wybodaeth gyfrinachol neu berchnogol gennych drwy ein gwefan. Ystyrir unrhyw ddeunydd, gwybodaeth neu unrhyw gyfathrebu arall yr ydych yn ei drosglwyddo neu'n ei bostio i'n gwefan ar wahân i'ch gwybodaeth bersonol, yn wybodaeth nad yw'n gyfrinachol nac yn berchnogol. Bydd yr Arsyllfa Dysgu a Sgiliau a Llywodraeth Cynulliad Cymru a'u dynodedigion yn rhydd i gopïo, datgelu, dosbarthu, ymgorffori a defnyddio'r negeseuon ym mhob data, delwedd, sain, testun a phethau eraill sydd wedi'u hymgorffori ynddynt i bob diben masnachol neu anfasnachol. Fe'ch gwaherddir rhag anfon neu drosglwyddo i'r wefan hon neu oddi arni unrhyw ddeunydd anghyfreithlon, bygythiol, difenwol, anweddus, pornograffig neu unrhyw ddeunydd arall a fyddai'n torri unrhyw gyfraith.
Bydd gwybodaeth yn cael ei newid neu'i diweddaru yn ddirybudd. Gall yr Arsyllfa Dysgu a Sgiliau a Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd wneud gwelliannau a/neu newidiadau i'r nwyddau a/neu wasanaethau a rhaglenni a ddisgrifir yn yr wybodaeth hon ar unrhyw adeg yn ddirybudd.
Eich cyfrifoldeb chi fydd cysylltu â safleoedd eraill ac ni fydd yr Arsyllfa Dysgu a Sgiliau a Llywodraeth Cynulliad Cymru'n derbyn atebolrwydd am unrhyw safleoedd cysylltiedig. Pan fyddwch yn ymweld â gwefan nad yw'n wefan yr Arsyllfa Dysgu a Sgiliau nac yn wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru, hyd yn oed gwefan a allai gynnwys logo'r Arsyllfa neu Lywodraeth y Cynulliad, mae'n bwysig eich bod yn deall ei bod yn annibynnol o'r Arsyllfa Dysgu a Sgiliau a Llywodraeth Cynulliad Cymru ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y wefan honno. At hynny, nid yw dolen sy'n cysylltu â gwefan nad yw'n wefan yr Arsyllfa Dysgu a Sgiliau a gwefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn golygu bod yr Arsyllfa a Llywodraeth y Cynulliad yn cymeradwyo nac yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys gwefan o'r fath na'r defnydd ohoni. Rhaid i ddefnyddwyr eu hunain gymryd gofal i sicrhau bod yr hyn a ddewisir i'w ddefnyddio yn rhydd o bethau fel feirysau, llyngyr, Trojan horses ac eitemau dinistriol eraill.
Gan fod ein gwefannau yn aml yn cynnig dolenni i wefannau trydydd parti, fel gwefannau ein partneriaid busnes a chynghorwyr ar-lein, dylai defnyddwyr adolygu eu polisïau preifatrwydd er mwyn dysgu mwy am beth, pwy a sut y maent yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol adnabyddadwy.
Mae gwasanaeth a deunyddiau'r wefan hon yn cael eu darparu "fel ag y maent" ac mae'r Arsyllfa Dysgu a Sgiliau a Llywodraeth Cynulliad Cymru a chynhalwyr y wefan hon a phob un o'r cwmnïau menter lleol yn ymwrthod yn ffurfiol ag unrhyw warantau, boed yn ddatganedig neu'n oblygedig, i'r graddau a ganiateir trwy gyfraith gan gynnwys, ond heb eu cyfyngu i, warantau o ansawdd boddhaol, marchnadwyedd neu addasrwydd at ddiben penodol, mewn perthynas â'r gwasanaeth neu unrhyw ddeunyddiau.
Ac eithrio mewn perthynas â marwolaeth neu niwed personol sy'n deillio o esgeuluster, mae'r Arsyllfa Dysgu a Sgiliau, Llywodraeth Cynulliad Cymru a chynhalwyr y safle hwn yn gwahardd atebolrwydd am unrhyw hawliadau, colledion, archebion neu iawndal o unrhyw fath o safbwynt unrhyw wybodaeth a/neu wasanaethau a ddarperir ar ein gwefan gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, golled neu iawndal uniongyrchol, anuniongyrchol, damweiniol neu ganlyniadol, iawndal digolledu neu golli elw neu ddata, p'un a yw hynny ar sail torri contract neu warant, trosedd neu gamwedd (gan gynnwys esgeulustod), atebolrwydd cynnyrch neu fel arall.