
A allwch chi hyfforddi pobl ifanc mwyaf medrus y DU i lwyddo yng Nghystadlaethau WorldSkills yn Calgary (2009) a Llundain (2011) fel Rheolwr Hyfforddi/ Arbenigwr WorldSkills gwirfoddol?
Yn 2007 aeth UK Skills â thîm o 23 person ifanc medrus iawn i Gystadleuaeth WorldSkills, y gystadleuaeth sgiliau rhyngwladol mwyaf yn y byd, yn cynnwys 46 o wledydd. Dychwelodd y tîm ag un fedal aur, un fedal arian, dwy fedal efydd a naw Medaliwn Rhagoriaeth. Yn gyffredinol, cododd safle’r DU i 11eg yn y byd.
Ond rydym yn bwriadu gwneud yn well fyth yn 2009, ac yn enwedig yn 2011, pan fydd Cystadleuaeth WorldSkills yn dod i Lundain. Dyna pam rydym yn chwilio am reolwyr hyfforddi deinamig i arwain hyfforddiant Tîm y DU, ac i helpu i wella safonau.
Mae’r rôl unigryw hon yn cynnig datblygiad gyrfaol a phroffesiynol rhagorol, gan gynnwys y cyfle i ennill Gradd Meistr Ol-raddedig mewn Rheoli Perfformiad. Mae’n cynnig persbectifau rhyngwladol a theithio, gan gynnwys mynychu Cystadleuaeth WorldSkills 2009 yn Calgary, a’r cyfle i weithio gyda phobl broffesiynol sydd ar flaen y gad mewn sgiliau a’u datblygiad yn y DU a ledled y byd. Nid oes cyflog i’r swydd hon – ond gwnawn ein gorau i sicrhau cefnogaeth i chi yn eich rôl a’ch datblygiad. Ad-delir mân gostau sy’n ymwneud â’r rôl.
Cysylltwch ag aelod o dîm WorldSkills Cymru...
Sian Powell 01443 663776 sian.powell@wales.gsi.gov.uk
Mark Bradley 01443 663783 mark.bradley@wales.gsi.gov.uk