
Cymerwch olwg ar y dogfennau strategaeth a pholisi allweddol diweddaraf sy'n sail i'r agenda addysg, dysgu a sgiliau yng Nghymru:
Agenda Strategol Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae’r strategaeth yn disgrifio uchelgais ‘Cymru’n Un’ am Gymru addysgedig a medrus sydd â chyflogaeth lawn. Mae Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru yn adeiladu ar yr ymgynghoriad a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2008. Mae hyn yn gynnwys gwaith blaenorol Y Wlad sy’n Dysgu: Gweledigaeth ar Waith.
Mae’r ddogfen hon yn ymgynghori ynghylch cynlluniau i leihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru. Mae’n rhan o gyfres o bapurau thematig sy’n rhoi sylw i faterion yn ymwneud â sgiliau a nodwyd yn Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru, y strategaeth ddrafft ar sgiliau a chyflogaeth. Mae’r papur yn berthnasol hefyd i fersiwn ddrafft Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) (2008).
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cyflwyno'r cynigion ar gyfer datblygu'r ddarpariaeth ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned yn strategol.
Mae sicrhau gweithlu sy'n meddu ar sgiliau digonol i fanteisio ar gyfleoedd ar gyfer cyflogaeth o’r radd flaenaf yn y dyfodol yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, mae’r tystiolaeth yn awgrymu y dylwn ni geisio ffyrdd o integreiddio gwaith ysgolion, Sefydliadau Addysg Bellach, Sefydliadau Addysg Uwch a darparwyr ôl-16 eraill. Mi fydd hyn yn trawsnewid y ffyrdd y cyflwynir darpariaeth addysg a hyfforddiant.
Cynllun strategol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer addysg, dysgu gydol oes a sgiliau yng Nghymru tan 2010
Fframwaith Strategol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer datblygu economaidd
Cynllun gweithredu Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer datblygu sgiliau'r gweithlu a helpu mwy o bobl i gael gwaith
Strategaeth Sgiliau Sylfaenol ddiwygiedig Llywodraeth Cynulliad Cymru.