
Croeso i Sgiliau Dyfodol Cymru (SDC). Ar dudalennau Sgiliau Dyfodol Cymru'r Arsyllfa Dysgu a Sgiliau cewch yr wybodaeth a'r arolygon diweddaraf am Raglen SDC, gan gynnwys y prif arolygon, setiau data a'r fethodoleg.
Ym 1998, ymgymerwyd â phrosiect ymchwil Sgiliau Dyfodol Cymru (SDC) er mwyn sefydlu anghenion sgiliau cyffredinol Cymru gyfan yn y presennol a’r dyfodol.
Dosbarthwyd canlyniadau’r ymchwil yn eang ledled Cymru ac roedd croeso iddynt gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau ac yn llunio polisïau yn y sector cyhoeddus. O ganlyniad, penderfynwyd parhau â’r gwaith hwn, a sefydlwyd Uned Sgiliau Dyfodol Cymru ym Mehefin 2000 i gynnal a datblygu’r rhaglen ymchwil a dosbarthu.
Mae Prosiect Sgiliau Dyfodol Cymru bellach yn Rhaglen Ymchwil barhaol, sy’n cynnwys:
Gweler tudalen Rhaglen Ymchwil SDC am ragor o wybodaeth.
Mae Grŵp Llywio SDC wedi bodoli ers 1997 ac mae’n cynnwys ystod eang o gyrff sy’n cynrychioli’r sector cyhoeddus a’r sector preifat, gan gynnwys:
APADGOS - Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau LlCC
AETh – Adran yr Economi a Thrafnidiaeth LlCC
Cyfarwyddiaeth Ystadegol LlCC
Is-adran Cyngor Economaidd LlCC
Gyrfa Cymru
Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru (CBI)
Addysg Uwch Cymru
Canolfan Byd Gwaith
Estyn
Fforwm
Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB)
Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru
Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL)
Yr Asiantaeth Datblygu Sgiliau Sector (SSDA)
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC)
TUC Cymru
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
Tîm SDC
Yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Tŷ’r Afon
Heol Bedwas
Bedwas
Caerffili
CF83 8WT
Ffôn: 01443 663 663
Ffacs: 01443 663 653
E-bost: LSO@wales.gsi.gov.uk