
MethodolegCafodd 6,719 o fusnesau eu cyfweld ar gyfer yr arolwg o gyflogwyr. Fel yn achos arolygon 1998 a 2003, roedd cyfle i bob ymatebwr gael ei gyfweld yn Gymraeg ac roedd yr holl ohebiaeth yn ddwyieithog.
Anfonwyd neu ffacswyd llythyr ymlaen llaw at yr holl gyflogwyr a ddewisiwyd, gan egluro iddynt bwrpas yr astudiaeth a beth fyddai’n ei olygu i’r rhai oedd yn cymryd rhan – gwnaed hyn er mwyn rhoi mwy o wybodaeth iddynt ac i helpu’r cyflogwyr i baratoi ar gyfer rhai o’r cwestiynau mwy manwl ymlaen llaw.
Roedd y sampl o’r Arolwg Cyflogwyr yn cynnwys sefydliadau o bob maint, yn ogystal â gwahanol sectorau diwydiant a lleoliadau ar draws Cymru. Mae’r samplau hefyd wedi’u llunio i ganiatáu canlyniadau dibynadwy ar y lefelau canlynol: Cenedlaethol, Rhanbarthol, a Chyngor Sgiliau Sector. Fodd bynnag, mae maint y samplau ar lefel SSC yn rhy fach i ddarparu gwybodaeth ar lefel Awdurdod Unedol a lefel ranbarthol yn y rhan fwyaf o achosion.
Cynlluniwyd yr holiaduron i roi atebion y gellid eu cymharu ag arolygon blaenorol ac arolygon eraill yn y DU. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, llwyddwyd i gael balans rhwng dilyniant/cymhariaeth a sicrhau bod yr arolwg yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnom yn y dyfodol. Er bod cymharaieth yn bwysig er mwyn nodi ac olrhain newid a chadarnhau canfyddiadau arolygon 1998 a 2003, rhoddwyd blaenoriaeth i gymhariaeth ag arolygon eraill y DU.
Isod, o dan ‘Deunydd Cysylltiedig’ cewch weld holiadur y cyflogwyr a’r adroddiad technegol.
Cysylltwch â Thîm SDC am ragor o wybodaeth.