
Cafodd 6,000 o fusnesau eu cyfweld ar gyfer yr arolwg o gyflogwyr a chafodd 6,000 o unigolion eu cyfweld ar gyfer yr arolwg o gartrefi. Fel yn achos arolwg 1998, cafodd pob ymatebwr y cyfle i gael ei gyfweld yn Gymraeg ac roedd yr holl ohebiaeth yn ddwyieithog.
Anfonwyd llythyr i’r holl gartrefi a ddewisiwyd, gan egluro iddynt bwrpas yr astudiaeth a beth fyddai’n ei olygu i’r rhai oedd yn cymryd rhan. Yn ystod yr Arolwg o Gyflogwyr, anfonwyd ffacs os oedd angen er mwyn rhoi mwy o wybodaeth iddynt ac i helpu’r cyflogwyr i ateb rhai o’r cwestiynau mwy manwl ymlaen llaw.
Roedd yr arolwg o’r cyflogwyr a’r arolwg o’r cartrefi yn defnyddio samplau ar hap. Roedd sampl o’r Arolwg Cyflogwyr yn cynnwys cwmnïau o bob math, yn ogystal â gwahanol sectorau diwydiant a lleoliadau ar draws Cymru. Roedd yr Arolwg Cartrefi’n cynnwys sampl ar hap o unigolion o oedran gweithio’n unig (h.y. 16-59 oed i fenywod a 16-64 oed i ddynion); roedd gan bawb yng Nghymru o oedran gweithio yr un cyfle i gael eu dewis.
Cynlluniwyd y samplau hefyd i alluogi canlyniadau dibynadwy i’w darparu ar y lefelau a ganlyn: Cenedlaethol, Rhanbarthol, Amcan Un a 3 Rhanbarthol, ac ardal Awdurdod Unedig (AU). Fodd bynnag, roedd maint y sampl ar gyfer rhai materion yn rhy fach i ddarparu gwybodaeth ar lefel AU a weithiau ar lefel ranbarthol.
Cynlluniwyd yr holiaduron mewn modd a fyddai’n darparu atebion y gellir eu cymharu â’i gilydd. Bwydwyd canlyniadau’r arolygon i mewn i fodelau rhagolwg econometrig mewn ymarfer wedi hynny.
O ran cymharu canfyddiadau’r arolwg newydd â chanfyddiadau 1998, llwyddwyd i gael balans rhwng dilyniant a chymariaeth a sicrhau bod yr arolwg yn darparu’r wybodaeth sydd ei hangen arnom yn y dyfodol. Er bod cymhariaeth yn bwysig i nodi ac olrhain newid a chadarnhau canfyddiadau arolwg 1998, rhoddwyd blaenoriaeth i’r cwestiynau yn holiadur 2003 a oedd yn fwy defnyddiol yn gyffredinol. Hefyd, bydd y dechneg samplo ar hap a ddefnyddiwyd ar gyfer yr arolwg o gartrefi yn rhoi data mwy dibynadwy na’r fethodoleg cwota flaenorol.
Isod o dan ‘Deunydd Cysylltiedig’ fe welwch yr holiadur cyflogwyr, yr arolwg o gartrefi a’r adroddiad technegol
Mae’r ardal hon yn ffynhonnell gynhwysfawr o wybodaeth SDC sy’n cynnwys canfyddiadau allweddol mewn perthynas â materion fel y sector diwydiant, statws galwedigaeth a gwaith.
Mae tablau a siartau sy’n dangos rhai o ganlyniadau allweddol Arolwg Sgiliau Generig SBC 2003 ar gael ar wefan Stats Cymru Llywodraeth Cynulliad Cymru. I weld y canlyniadau, agorwch y ffeiliau ‘Economi a’r Farchnad Lafur’, ‘Sgiliau’, ac yna ‘Sgiliau Dyfodol Cymru’.