
Cafodd 6,000 o fusnesau eu cyfweld ar gyfer yr arolwg o gyflogwyr a 6,000 o unigolion eu cyfweld ar gyfer yr arolwg o gartrefi. Roedd cyfle i bob ymatebwr gael ei gyfweld yn Gymraeg ac roedd yr holl ohebiaeth yn ddwyieithog.
Anfonwyd llythyr ymlaen llaw i’r holl gartrefi a ddewisiwyd, gan egluro iddynt bwrpas yr astudiaeth a beth fyddai’n ei olygu i’r rhai oedd yn cymryd rhan. Yn ystod yr Arolwg Cyflogwyr, anfonwyd ffacs lle’r oedd angen er mwyn rhoi mwy o wybodaeth iddynt ac i helpu’r cyflogwyr i ateb rhai o’r cwestiynau mwy manwl ymlaen llaw.
Roedd yr arolwg cyflogwyr a’r arolwg cartrefi yn defnyddio samplau ar hap. Roedd y sampl o’r Arolwg Cyflogwyr yn cynnwys cwmnïau o bob maint, yn ogystal â gwahanol sectorau diwydiant a lleoliadau ar draws Cymru. Roedd yr Arolwg Cartrefi’n cynnwys sampl ar hap o unigolion o oedran gweithio’n unig (h.y. 16-59 oed i fenywod a 16-64 oed i ddynion); roedd gan bawb yng Nghymru o oedran gweithio yr un cyfle i gael eu dewis.
Cynlluniwyd y samplau hefyd i alluogi canlyniadau dibynadwy i’w darparu ar y lefelau a ganlyn: Cenedlaethol, Rhanbarthol, Amcan Un a 3 Rhanbarthol, ac ardal Awdurdod Unedig (AU). Fodd bynnag, roedd maint y sampl ar gyfer rhai materion yn rhy fach i ddarparu gwybodaeth ar lefel AU a weithiau ar lefel ranbarthol.
Cynlluniwyd yr holiaduron mewn modd a fyddai’n darparu atebion y gellir eu cymharu â’i gilydd. Bwydwyd canlyniadau’r arolygon i mewn i fodelau rhagolwg econometrig mewn ymarfer wedi hynny.
Isod, o dan ‘Deunydd Cysylltiedig’ cewch weld holiadur y cyflogwyr a’r adroddiad technegol. Cysylltwch â Thîm SDC am adroddiadau technegol.
Cysylltwch â Thîm SDC am ragor o wybodaeth.