
Bydd Rhaglen Ymchwil Sgiliau Dyfodol Cymru yn darparu sylfaen ar gyfer gwneud penderfyniadau ar addysg a hyfforddiant gan gyrff strategol, cyflogwyr, gwasanaethau gyrfaoedd a Chanolfan Byd Gwaith, darparwyr dysgu, Cynghorau Sgiliau Sector ac unigolion.
Mae Arolwg Sgiliau Sector Sgiliau Dyfodol Cymru 2005 yn arolwg o 6,719 o gyflogwyr, a ddewisiwyd ar hap ar draws Cymru, y cysylltwyd â nhw rhwng mis Mawrth a mis Mai 2005. Roedd yr arolwg yn cynnwys cyflogwyr ar draws yr holl weithgareddau busnes yng Nghymru.
Prif nod SDC 2005 yw rhoi gwybodaeth ddibynadwy ar y diffyg sgiliau y mae cyflogwyr yng Nghymru’n ei ddioddef; gwybodaeth y gellir ei defnyddio i lywio polisi a chynllunio datblygu sgiliau. Er i’r ddau arolwg blaenorol o gyflogwyr SDC ddelio â sgiliau generig yn unig, roedd arolwg 2005 hefyd yn holi am sgiliau ymarferol a thechnegol.
Fe wnaeth arolwg o 6,000 o gyflogwyr, a ddewisiwyd ar hap ar draws Cymru ac y cysylltwyd â hwy yn 2003, gasglu gwybodaeth am y ffactorau sy’n rheoli anghenion sgiliau’r dyfodol, arferion ac anawsterau recriwtio, diffyg sgiliau a bylchau o ran sgiliau a phwysigrwydd sgiliau a dysgu i fusnes yng Nghymru yn y presennol a’r dyfodol. Fe wnaeth arolwg o gartrefi a gynhaliwyd ar yr un adeg gasglu gwybodaeth gan 6,000 o unigolion a ddewisiwyd ar hap ar draws Cymru, ar statws cyflogaeth ac agweddau tuag at gyflogaeth, y defnydd o sgiliau a phwysigrwydd sgiliau a hyfforddi/dysgu yn y presennol a’r dyfodol.
Mae Rhagolygon Gwaith yn grynodebau, sy’n seiliedig ar ymchwil, o wybodaeth am y farchnad lafur, a gynhyrchir gan Uned Sgiliau Dyfodol Cymru. Eu nod yw helpu unigolion i wneud penderfyniadau ynghylch swyddi yng Nghymru a’r dewisiadau o ran dysgu sy’n gysylltiedig â chanlyn y swyddi hyn. Maent wedi’u hysgrifennu mewn iaith syml, hawdd ei defnyddio, ac wedi’u llunio i fod yn adnodd cyngor a chanllaw digyfryngiad, a chânt eu diweddaru’n rheolaidd.
Mae Partneriaeth Sgiliau Dyfodol Cymru hefyd wedi cyd-ariannu Arolwg o gyflogau, a chafodd y canlyniadau eu bwydo i’r Rhagolygon Gwaith (gweler uchod). Mae canfyddiadau’r arolwg yn darparu data am y cyfraddau cyflog cyfartalog ar gyfer gwahanol alwedigaethau a diwydiannau yng Nghymru.
Defnyddir canlyniadau’r arolwg i gyfrannu at y rhagolygon o sgiliau galwedigaethol a generig. Bydd y rhagolygon hyn yn cael eu cynhyrchu fel rhan o ymarfer ar wahân. Bydd yr wybodaeth a ddarperir yn hwyluso cynllunio polisi ar lefelau rhanbarthol a lleol, yn cyfrannu i gynllunio cyrsiau yn y dyfodol ac yn helpu i wneud penderfyniadau unigol.
Mae Arolwg o Sgiliau Generig 1998 Sgiliau Dyfodol Cymru yn arolwg o 6,000 o unigolion a 6,000 o gyflogwyr ledled Cymru y cysylltwyd â hwy ym 1998.
Fel yr awgryma’r enw, fe wnaeth yr arolwg ganolbwyntio ar sgiliau generig yn hytrach na sgiliau penodol i swyddi. Mae hwn yn fesur pwysig am ei fod yn ymwneud â sgiliau y mae eu hangen ar draws y rhan fwyaf, neu mewn rhai achosion, yr holl alwedigaethau. Mae angen i’r sgiliau hyn fod ar gael i gyflogwyr ac unigolion yng Nghymru er mwyn eu datblygu mewn sefydliadau a gyrfaoedd fel ei gilydd yn y blynyddoedd i ddod.
Mae dadansoddiad ychwanegol yn cynnwys Arolwg Cyflogau Blynyddol Cymru 2002 sy’n darparu data ynghylch y cyfraddau cyflog cyfartalog ar gyfer gwahanol alwedigaethau yng Nghymru; Rhagolygon Economaidd Rhanbarthol (Ymchwiliad) 2001, ymchwil a oedd yn cynnwys adolygu’r defnydd o ragolygon economaidd rhanbarthol a modelau rhagolygon yng Nghymru; ac Adroddiad Sgiliau Iaith Gymraeg mewn 7 Sector 2005, a oedd yn arolwg o ofynion 2,000 o gyflogwyr yng Nghymru.
Cysylltwch â Thîm SDC am ragor o wybodaeth.