
Yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf gadawodd pobl ifanc y brifysgol gan wybod eu bod yn wynebu un o'r brwydrau caletaf am swyddi mewn cenhedlaeth. Mae'r hinsawdd economaidd yn parhau'n galed ac mae penawdau'r cyfryngau yn cyfrannu at y drafodaeth gyda phroffwydoliaethau enbyd. Mae'r rhagolygon yn llwm. Ond beth yw'r realaeth?
Mae dau adroddiad diweddar yn rhoi ystadegau manwl ar hynt graddedigion ar ôl gadael y brifysgol ac yn tynnu sylw at y tueddiadau swydd presennol.
Dengys yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar gyrchfannau myfyrwyr prifysgol Cymru yn 2009/10 - hynny yw, y myfyrwyr hynny o Gymru neu'r rhai a raddiodd o brifysgolion Cymru - fod tua thri chwarter ohonynt wedi mynd i ryw fath o waith chwe mis ar ôl iddynt raddio. Arhosodd y gyfran yma'n weddol gyson dros y chwe blynedd ddiwethaf. Parhaodd tua 14 y cant o raddedigion o Sefydliadau Addysg Uwch Cymru gydag astudiaeth bellach - 12 y cant ar gyfer graddedigion Cymru. Tybiwyd fod chwech y cant o raddedigion Cymru a graddedigion o Sefydliadau Addysg Uwch Cymru yn ddi-waith - yr un canran â'r flwyddyn flaenorol ond ychydig yn uwch na chyn y dirwasgiad.
Dangosodd y ffigurau hefyd fod graddedigion o brifysgolion Cymru yn fwy tebygol o aros yng Nghymru nag mewn blynyddoedd blaenorol - 61 y cant yn 2009/10 o gymharu gyda 56 y cant yn 2005/06. Roedd graddedigion Cymru hefyd yn fwy tebygol o barhau neu ddychwelyd i weithio yng Nghymru nag mewn blynyddoedd blaenorol - 73 y cant yn 2009/10 o gymharu gyda 68 y cant yn 2005/06. Yn y ddau achos, mae'r gwerthoedd yn is na'r cyfraddau cyffelyb ar gyfer yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ond yn uwch nag ar gyfer y rhan fwyaf o ranbarthau Lloegr.
Mae ail adroddiad, sy'n dadansoddi data gan ymadawyr prifysgol 2006/07 dair blynedd a hanner i'w gyrfaoedd, yn codi cwr y llen ar batrymau cyflogaeth graddedigion sefydliadau addysg uwch.
Dengys y ffigurau fod graddedigion 2006/2007 yn llai tebygol o fod mewn swyddi llawn-amser dair blynedd a hanner ar ôl graddio na'u cyfoedion yn 2004/2005, ond yn fwy tebygol o fod mewn gwaith rhan-amser. Roedd 70 y cant o raddedigion o sefydliadau addysg uwch Cymru mewn cyflogaeth lawn-amser a 11 y cant mewn cyflogaeth ran-amser.
Tybiwyd fod chwech y cant mewn astudiaeth bellach neu gyfuniad o waith ac astudiaeth bellach ym mhob categori. Tybiwyd fod tri y cant yn ddi-waith.
Mae'r ddau adroddiad yn rhoi ystadegau manwl pellach ar lefel cymwysterau, y pynciau a astudiwyd a chymariaethau rhanbarthol ar draws y Deyrnas Unedig. Maent hefyd yn rhoi darlun cliriach a mwy cywir o ragolygon swyddi graddedigion tro-cyntaf, gan fod yn sail gadarn ar gyfer graddedigion y dyfodol i asesu eu gyrfaoedd prifysgol.
Mae manylion yr adroddiadau ar gael yn:
Mae'r erthygl hon yn dangos gwerth Gwybodaeth am y Farchnad Lafur wrth wneud penderfyniadau mwy gwybodus ac effeithiol am ddewisiadau gyrfa a dysgu. Mae gwybodaeth bellach ar gael ar wefan yr Arsyllfa Dysgu a Sgiliau.
Hoffem glywed gennych os oes gennych unrhyw sylwadau am y math o Wybodaeth ar y Farchnad Lafur sy'n werthfawr i chi, a sut y bu Gwybodaeth ar y Farchnad Lafur o fudd i chi. Ar gyfer hyn a gwybodaeth bellach am y prosiect Gwybodaeth ar y Farchnad Lafur, cysylltwch â Rachel Stephens, Uwch Reolwr Polisi Sgiliau Llywodraeth Cymru.