
Roedd 192,770 o ddysgwyr wedi eu cofrestru mewn sefydliadau AB yn ystod 2008/09, 6.7 y cant yn llai nag yn 2007/08. Bu 43,485 o ddysgwyr yn dilyn gweithgaredd Dysgu Cymunedol Awdurdod Lleol yn 2008/09 (gan gynnwys y rheini a gofrestrwyd mewn sefydliadau AB ond a addysgwyd gan staff awdurdodau lleol), 1.5 y cant yn llai na’r flwyddyn flaenorol. Dilynodd 56,550 o ddysgwyr rhaglenni dysgu seiliedig ar waith mewn sefydliadau AB a darparwyr hyfforddi eraill yn 2008/09, 1.7 y cant yn llai nag yn 2007/08.