
Roedd 217,550 o ddysgwyr wedi eu cofrestru mewn sefydliadau AB yn ystod 2007/08. Bu gostyngiad o 1.6 y cant yng nghyfanswm niferoedd dysgwyr AB mewn sefydliadau Addysg Bellach ac Uwch rhwng Rhagfyr 2002 a Rhagfyr 2007. Bu 44,660 o ddysgwyr yn dilyn gweithgaredd Dysgu Cymunedol Awdurdodau Lleol yn 2007/08 (gan gynnwys y rheini a gofrestrwyd mewn sefydliadau AB ond a addysgwyd gan staff awdurdodau lleol).