
Cyhoeddwyd yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar Ysgolion ac Athrawon, a gynhyrchir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ar 29 Hydref 2009, yn unol â’r trefniadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig. Mae’r gyfrol flynyddol ‘Ysgolion yng Nghymru: Ystadegau Cyffredinol 2009’ yn cyflwyno gwybodaeth ar y sector ysgolion yng Nghymru o nifer o ffynonellau, y prif un yw’r Cyfrifiad Ysgolion.