
Rhoddwyd i’r Adolygiad y dasg o ystyried a oedd y ffurfiau presennol o lywodraethu cenedlaethol a sefydliadol wedi cyd-fynd ag anghenion, disgwyliadau a gofynion y dyfodol ym maes Addysg Uwch yng Nghymru a chanfod y newidiadau y mae eu hangen. Cyflwynodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ei adroddiad i’r Gweinidiog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes ar 17 Chwefror 2011.