
Mae Andrew Davies, y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus, wedi cyflwyno'r Gyllideb Derfynol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Dywedodd y byddai'n helpu pobl, cymunedau a busnesau ledled Cymru drwy'r dirwasgiad byd eang ac yn parhau i fwrw ymlaen ag agenda Cymru'n Un. Gofynnodd hefyd am feddylfryd "Tîm Cymru" tuag at yr her y mae gwasanaethau cyhoeddus yn ei hwynebu. Datganiad i’r wasg Cyllideb Derfynol Rhagfyr 2009.