
Mae’r Gweinidog dros Addysg Jane Hutt wedi ymweld ag Ysgol Uwchradd Casnewydd yn y Betws i amlinellu ei blaenoriaethau gwario ar gyfer cyllideb ddrafft yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau sydd dros £2 biliwn yn 2010/11. Yn ogystal â dyrannu arian sylweddol i gyflawni ymrwymiadau Llywodraeth Cynulliad Cymru yn Cymru’n Un, mae’r Gweinidog wedi sicrhau bod swm ychwanegol o arian gwerth £20.5 miliwn ar gael er mwyn helpu’r bobl ifanc hynny sydd wedi dioddef fwyaf yn sgil y dirywiad economaidd. Mae’r arian yn cynnwys £13 miliwn ar gyfer ehangu’r rhaglen Adeiladu Sgiliau a’r cynllun Llwybrau at Brentisiaethau. Mae hefyd £6.7 miliwn ar gael ar gyfer y Warant i Bobl Ifanc, sy’n cynnwys Cronfa Swyddi’r Dyfodol. Cyllideb ddrafft Hydref 2009
Datganiad i’r wasg gan Andrew Davies, Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus, Andrew Davies