
Yn dilyn adroddiadau a ryddhawyd gan bapur newydd y Daily Telegraph am seminarau arholi a gynhaliwyd gan y byrddau arholi, mae'r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi bod adolygiad i'w gynnal o strwythur y farchnad cymwysterau cyffredinol yng Nghymru. Bydd yr adolygiad yn edrych ar yr effaith y mae strwythur y farchnad yn ei chael ar safonau mewn cymwysterau TGAU a Safon Uwch, a bydd yn mynd ati hefyd i asesu pa mor effeithiol yw'r strwythur hwnnw – gan nodi’r opsiynau ar gyfer ei newid a chan gyflwyno argymhellion.