
Mae’r gronfa ar gael i bob darparwr ôl-16 y mae Llywodraeth y Cynulliad yn eu cyllido i ddarparu dysgu cymunedol (DC), addysg bellach (AB) a dysgu'n seiliedig ar waith (DSW) neu ddysgu ar gyfer troseddwyr. Bydd darparwyr yn gallu gwneud cais am grant o hyd at £6,000 er mwyn cyflawni gweithgareddau penodol ar gyfer gwella ansawdd.