
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru, “Roedd gan Gyd-bwyllgor Addysg Cymru drwch blewyn o dan dair mil a hanner o fyfyrwyr yn sefyll arholiadau yng Nghymru heddiw. Bydd eraill yng Nghymru yn sefyll arholiadau gyda Chyrff Dyfarnu eraill.
“Hyd y gallwn gadarnhau, llwyddodd pob canolfan yng Nghymru i agor ei drysau i fyfyrwyr oedd yn sefyll arholiadau gan gynnwys ym Merthyr Tudful, lle gwnaed trefniadau i’r ymgeiswyr sefyll eu harholiadau mewn man canolog. Mae’r wybodaeth a gawsom gan rai o’r ardaloedd yr effeithiwyd waethaf arnynt, gan gynnwys Ceredigion a Merthyr Tudful, yn awgrymu fod pob ymgeisydd o’r bron wedi llwyddo i fod yn bresennol.
“Mae’r Gweinidog yn llongyfarch y canolfannau am ymdrechu mor galed i agor eu drysau i fyfyrwyr oedd yn sefyll arholiadau a hynny mewn amgylchiadau anodd. Er mai iechyd a diogelwch yr ymgeiswyr a’r staff sydd bwysicaf bob amser, mae’n bleser nodi na amharwyd gormod ar yr arholiadau, hyd yn hyn beth bynnag. Bydd yr ymgeiswyr yn falch iawn eu bod wedi medru sefyll yr arholiadau a hwythau wedi gweithio mor galed ar eu cyfer dros yr wythnosau diwethaf.
“Bydd yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, ynghyd â’r rheoleiddwyr yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, y Cyd-gyngor Cymwysterau, a’r Cyrff Dyfarnu yn cyfarfod yn ddyddiol i fonitro’r sefyllfa.”
Ceir rhagor o wybodaeth am y trefniadau ar gyfer y tywydd garw gan y Cyd-gyngor Cymwysterau a gellir ei weld ar wefan y Cyd-gyngor