
Mae Mesur Dysgu a Sgiliau Cymru wedi derbyn cefnogaeth y Cynulliad heddiw i fynd ymlaen i’w gam olaf o dderbyn cymeradwyaeth gan y Cyfrin Gyngor. Mae’r gefnogaeth a gafodd y Mesur gan y Cynulliad wedi gwneud llawer i sicrhau dyfodol Llwybrau Dysgu 14-19, sy’n anelu at wella y dewis addysgiadol, galwedigaethol ac academaidd, ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.