
Mae Wythnos Prentisiaethau Cymru wedi’i neilltuo’n unswydd i glodfori’r sgiliau a’r brwdfrydedd y mae prentisiaid yn eu cynnig i gyflogwyr ledled Cymru. Mae’n cynnwys digwyddiadau arddangos gan ddarparwyr hyfforddiant a straeon llwyddiant sy’n sôn am brentisiaid go iawn. Mae Wythnos Prentisiaethau Cymru yn clodfori sgiliau a brwdfrydedd y bobl sy’n dysgu gan eu cyflogwyr, ond sydd hwythau’n gaffaeliad i’r swydd.