
Mae ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael eu hannog i gymryd rhan yn yr Wythnos Gwrth-Fwlio eleni. Gallan nhw wneud hyn drwy hyrwyddo materion ynghylch bwlio yn ystod yr wythnos hon drwy’r gwasanaeth ysgol, y cwricwlwm neu mewn ffyrdd eraill. Mae Thema 3 ‘Dweud na wrth fwlio', o’r fersiwn Gymraeg o Agweddau Chymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu, yn thema fyrrach (un neu ddwy wythnos) a fyddai'n addas ar gyfer wythnos gwrth-fwlio. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi creu pecyn cymorth hunanasesu i helpu ysgolion i wella’u polisïau gwrth-fwlio.