
Mae 'Un Gymru, Sawl Llais' yn casglu ynghyd enghreifftiau o arfer da, o ran helpu disgyblion o leiafrifoedd ethnig, o amrywiaeth o sefydliadau ledled Cymru. Bwriedir iddo gael ei ddefnyddio fel adnodd i ymarferwyr, sy'n cynnwys canllawiau ymarferol i alluogi ysgolion ac awdurdodau lleol i weithredu ffyrdd effeithiol o hyrwyddo safonau uchel ar gyfer darparu addysg i ddisgyblion o leiafrifoedd ethnig mewn ysgolion.