
Mae sicrhau gweithlu sy'n meddu ar sgiliau digonol i fanteisio ar gyfleoedd ar gyfer cyflogaeth o’r radd flaenaf yn y dyfodol yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, mae’r tystiolaeth yn awgrymu y dylwn ni geisio ffyrdd o integreiddio gwaith ysgolion, Sefydliadau Addysg Bellach, Sefydliadau Addysg Uwch a darparwyr ôl-16 eraill. Mi fydd hyn yn trawsnewid y ffyrdd y cyflwynir darpariaeth addysg a hyfforddiant. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn disgwyl i ddarparwyr dysgu gymryd y camau angenrheidiol i ffurfio Partneriaethau Dysgu daearyddol a sectoraidd erbyn mis Tachwedd 2008. Mae angen i gynigion amlinellol ar gyfer newid gael eu cyflwyno i APADGOS, fel Rhaglen Amlinellol Strategol, erbyn 15 Ionawr 2009.
Dylid anfon unrhyw ymatebion neu gwestiynau at Joanne Meade yn y cyfeiriad isod, neu eu hanfon yn electronig i: Transformation3@wales.gsi.gov.uk.
Yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Llywodraeth Cynulliad Cymru,
Tลท'r Afon,
Heol Bedwas,
Bedwas,
Caerffili
CF83 8W
Trawsnewid Darpariaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru - Darparu Sgiliau sy'n Gweithio i Gymru