
Neilltuwyd mwy na £110 miliwn o gyllid Llywodraeth y Cynulliad er mwyn trawsnewid cyfleoedd a rhagolygon pobl ifanc, trigolion lleol a busnesau ym Mlaenau’r Cymoedd. Cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ynglĹ·n â natur y newidiadau arfaethedig dros y misoedd nesaf. Neilltuwyd y cyllid yn benodol ar gyfer tri phrosiect mawr – Athrofa Prifysgol Blaenau’r Cymoedd, sef partneriaeth rhwng Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru Casnewydd; Ardal Ddysgu Merthyr Tudful a Learning Works Blaenau Gwent. Dyma ddangos ymrwymiad gwirioneddol i’r rhanbarth, i ddatblygu cyfleoedd dysgu a sgiliau newydd, gwell cyfleusterau lleol a denu swyddi newydd i’r Cymoedd. Darllenwch yr erthygl