
Mae’r cyflwyniad yn darparu trosolwg cyffredinol o’r canfyddiadau, gan gynnwys gwybodaeth ar gyflenwad a galw am sgiliau generig yng Nghymru yn ôl cyflogwyr ac unigolion. Mae’n nodi unrhyw wahaniaethau sylweddol rhwng gobeithion a barnau unigolion a chyflogwyr mewn perthynas â hyfforddiant a dysgu yng Nghymru. Yn ogystal, mae’n rhoi barnau’r cyflogwyr ar bwysigrwydd sgiliau generig i fusnesau a barnau unigolion ar ddefnyddioldeb gwasanaethau cyngor ac arweiniad.
Hyd yn hyn, bu’r adborth gan fynychwyr yn rhagorol. Dywedodd 97.5% o’r mynychwyr fod y cyflwyniad naill ai’n dda neu’n dda iawn a theimlai’r un gyfran fod y cyflwyniad a’r canfyddiadau’n berthnasol i’w gwaith.
Croesewir awgrymiadau ar gyfer meysydd i ganolbwyntio dadansoddiad pellach o’r wybodaeth a gasglwyd gan yr arolwg gan dîm Sgiliau Dyfodol Cymru ac mae llawer o syniadau diddorol eisoes wedi dod i law. Er enghraifft, gofynnwyd i ni edrych ar y canlyniadau o ran gwledigrwydd/teithio i ardaloedd gwaith, torri lawr ar y ffigyrau cyn belled ag sy’n bosibl o ran sectorau diwydiant ac ystyried sut i helpu cynhyrchu deunyddiau dosbarth ar gyfer cynghorwyr ac athrawon gyrfaoedd.
Rhoddir isod restr o bobl rydym naill ai wedi rhoi cyflwyniad iddynt yn ddiweddar neu’n bwriadu gwneud cyn bo hir:
Partneriaid rydym eisoes wedi rhoi cyflwyniad iddynt:
Digwyddiadau ar y gweill:
Mae’r cyflwyniad safonol, sy’n darparu crynodeb o ganlyniadau’r arolwg hefyd yn ymddangos ar dudalen ‘Gwybodaeth Sgiliau’ y wefan, o dan ‘Uchafbwyntiau’r Arolwg’.
Bydd crynodebau hwylus a dadansoddiad pellach o’r canlyniadau hefyd yn ymddangos yn adran yr Uchafbwyntiau dros y misoedd nesaf.