
Mae Rhwydwaith Gwrth-fwlio Cymru wedi cyhoeddi cyfres o weithdai gwrth-fwlio Taith Parch 2009, sydd i’w cynnal mewn nifer o wahanol fannau ledled Cymru. Mae’r Sioe Deithiol, sy’n cael ei noddi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn cael ei chydlynu gan NSPCC Cymru a’i chefnogi gan Stonewall Cymru, Barnardos Cymru a Plant yng Nghymru. Dyma gyfle gwych i ddysgu sut i ddelio â bwlio mewn ysgolion. Mae’r gweithdai ar gyfer disgyblion, plant, staff cymorth a swyddogion allweddol o’r awdurdod lleol.