
Heddiw [dydd Mercher 18 Gorffennaf 2007] cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ei chynlluniau ar gyfer Strategaeth Sgiliau a Chyflogaeth newydd i Gymru. Ar y diwrnod y cyhoeddodd Lloegr ei hymateb i Adolygiad Leitch, disgrifiodd John Griffiths, Gweinidog Sgiliau Cymru, sut y bydd Cymru yn ymateb i’r sialensau yn adroddiad yr Arglwydd Leitch ar sgiliau yn economi’r DU.
Bydd y Strategaeth Sgiliau a Chyflogaeth newydd – a fydd yn destun ymgynghoriad yn yr hydref – yn rhoi hwb i Gymru drwy baru sgiliau ei gweithwyr ag anghenion ei chyflogwyr a’i busnesau. Bydd yn ymateb i anghenion unigryw Cymru o ran sgiliau a chyflogaeth lle, er enghraifft, mae cyfran uchel o’r busnesau yn fusnesau bach.
Meddai Mr Griffiths:
Yn sgil Adolygiad Leitch, mae pob un o bedair gwlad y DU wedi bod yn gweithio ar ei chynlluniau unigryw ei hun i fynd i’r afael â phrinder sgiliau ac i wella cyflogadwyedd.
Yma yng Nghymru, rydym hefyd yn cynnal adolygiad annibynnol o genhadaeth a dibenion ein Colegau Addysg Bellach, sy’n cael ei gadeirio gan Syr Adrian Webb. Bydd y Strategaeth Sgiliau a Chyflogaeth newydd yn dwyn ynghyd sylwadau Adroddiad Leitch ar yr anghenion o ran sgiliau a sylwadau Adolygiad Webb ar barodrwydd ein sector addysg ac hyfforddi i ddiwallu’r anghenion hynny.
http://new.wales.gov.uk/news/ThirdAssembly/Education/2007/1589591/?lang=cy