
Cafodd strategaeth sgiliau a chyflogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, ‘Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru’, ei lansio ar gyfer ymgynghoriad, gan nodi cyfeiriad newydd clir i godi sgiliau lefel uwch a mynd i’r afael ag anghenion busnesau. Mae Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru yn cynnwys cynigion ar gyfer diwygio sylweddol a fydd yn cryfhau’r sylfaen sgiliau ledled Cymru.
Mae’r strategaeth ddrafft yn cynnwys amrywiaeth o fesurau allweddol:
Mae’r strategaeth hefyd yn cynnig nifer o fesurau mewn perthynas â’n gwaith gyda darparwyr, gan gynnwys mabwysiadu dull mwy strategol o sicrhau ansawdd darparwyr a chysylltiad strategol newydd gyda’r trydydd sector, gan gydnabod eu gallu i ymwneud a gweithio’n effeithiol gyda grwpiau ‘anodd eu cyrraedd’.
Caiff Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru ei ddadorchuddio gan John Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, a Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog, mewn achlysur lansio yn y Senedd am 6 o’r gloch ddydd Iau 17 Ionawr.
Dywedodd John Griffiths:
Mae sgiliau yn hanfodol i lwyddiant unigolion, busnesau a chymunedau. Mae Cymru’n Un yn tynnu sylw at arwyddocâd sylfaen sgiliau gadarn a’i rôl bwysig er mwyn cau’r bwlch o ran y targed cyflogaeth llawn.
Rydyn ni’n buddsoddi’n drwm yn yr agenda sgiliau a chyflogaeth a bydd y strategaeth hon yn helpu i sicrhau bod cyllid yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl, a bod unigolion a diwydiant yn gweithio mewn partneriaeth agos er mwyn cyrraedd ein nodau cyffredin.
Dywedodd Ieuan Wyn Jones:
Mewn byd o newid economaidd a thechnolegol cyflym, mae sgiliau yn gynyddol hanfodol i lwyddiant pobl, busnesau a chymunedau.
Mae gan weithlu Cymru heddiw fwy o sgiliau a chymwysterau nag yn y cyfnod cyn-datganoli, ond allwn ni ddim llaesu dwylo. Rhaid inni barhau i adeiladu ar ein llwyddiant.
Rwy’n pwyso’n daer ar fusnesau ac unigolion i helpu i lywio ein hagenda ar gyfer sgiliau a chyflogaeth, a chymryd rhan weithredol yn y broses ymgynghori hon.
Bydd Strategaeth Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru yn disodli Cynllun Gweithredu Sgiliau a Chyflogaeth 2005 ac mae’n rhan o’n hymateb i adroddiad Leitch ar sgiliau’r DU a’r adolygiad o Addysg Bellach gan Syr Adrian Webb.
Yn ystod y cyfnod ymgynghori 12-wythnos, bydd pedwar digwyddiad rhanbarthol yn cael eu cynnal ledled Cymru ac un cyfarfod cyhoeddus agored yng Nghaerdydd i roi cyfle i bobl gymryd rhan yn y broses ymgynghori. Caiff y cyfarfodydd rhanbarthol eu cynnal tuag at ddiwedd Chwefror a dechrau Mawrth yn Llandrindod, Abertawe, Caerdydd a Llanelwy.
Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru: Strategaeth sgiliau a chyflogaeth