
Cynhaliwyd ymgynghoriad gan Llywodraeth Cynulliad Cymru ar ddrafft o Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg o Fai 13 nes Awst 14 2009. Derbyniwyd 152 ymateb i’r ymgynghoriad hwn. Mae’r ymatebion a dderbyniwyd yn cael eu hystyried a bydd y Strategaeth a’r Rhaglen Gyflawni yn cael eu mireinio yn sgil y prif faterion a ddaeth i’r amlwg. Rhagwelir fod y Strategaeth yn ei wedd derfynol yn cael ei gyhoeddi yng Ngwanwyn 2010. Crynodeb o'r ymatebion.