
Methu credu’r peth? Dros 100 yn arddangos, theatr sgiliau, seminarau arloesol a chyfleoedd i roi cynnig ar amrywiaeth ryfeddol o sgiliau – hyn i gyd yn y digwyddiad gyrfaoedd a sgiliau i Gymru.
Bydd cyfle hyd yn oed i chi gael tynnu’ch llun gyda’r Daleks neu’r Tardis! Mae sgiliaucymru’n enfawr - does dim dwywaith am hynny! Mae’n cael ei gynnal yn Stadiwm y Mileniwm, sef y lleoliad cynnal digwyddiadau mwyaf yng Nghymru, rhwng 16 a 18 Medi 2010.
Mae’n rhad ac am ddim a gall unrhyw un alw heibio; dyma’r digwyddiad gyrfaoedd a sgiliau mwyaf erioed i’w gynnal yng Nghymru. www.skillscymru.co.uk