
Mae Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) yn adnodd gwerthfawr y gellid ei ddefnyddio i alluogi pobl i ddysgu’n effeithiol. Mae athrawon ac ysgolion eisoes wedi croesawu technoleg ac wedi buddsoddi mewn amryw o ffyrdd o’i defnyddio yn yr ystafell ddosbarth. Ond, ychydig o enghreifftiau o ragori sydd yna, ac mae’n bwysig i athrawon ac ysgolion Cymru ddysgu o’r enghreifftiau gorau hynny...Rwy’n disgwyl i’r grŵp hwn adrodd ar ei ganfyddiadau i mi erbyn 31 Ionawr 2012, ac rwy’n edrych ymlaen at glywed ei argymhellion.’