
Yn gyffredinol, mae safonau cyflawniad ar draws pob sector addysg a hyfforddiant yng Nghymru yn dda o leiaf yn ôl Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru 2007-2008. Mae’r adroddiad yn amlygu tystiolaeth o rywfaint o arfer ragorol; fodd bynnag, mae tua 30% o arolygiadau yn dangos nad yw darparwyr yn gwneud yn ddigon da.