
Mae menter newydd gwerth £4.6 miliwn sydd wedi’i hanelu at helpu pobl ifanc o gymunedau Sipsiwn-Teithwyr i waith ar y gweill, meddai Leighton Andrews y Gweinidog Addysg. Bydd prosiect Dysgu a chael Cyflogaeth yn y Dyfodol Cyngor Sir Benfro yn derbyn £2.5 miliwn gan Gronfa Gydgyfeirio Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cynulliad Cymru.