
Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno ehangu ac ymestyn y defnydd o wybodaeth am y farchnad lafur (LMI) ar draws Cymru.
Mae LMI yn bwnc enfawr. Fe’i diffinnir fel ‘data, ystadegau ac ymchwil am y gweithle’, ac mae’n cynnwys pethau fel gofynion sgiliau, cyfraddau cyflogaeth a diweithdra, cyflogau ac enillion, pellter teithio i’r gwaith, yr oriau a weithir, y galw am lafur a chyflenwad llafur. Mae gwybodaeth ar gael ar sectorau diwydiannol, grwpiau galwedigaethol, strwythur busnes ac ar faint a thwf y boblogaeth oedran gwaith. Mae cwmpas a maint LMI yn wir yn enfawr.
Mae gwahanol bobl yn defnyddio LMI mewn gwahanol ffyrdd i fod yn sylfaen i’w penderfyniadau a’u dewisiadau. Ar gyfer cyflogwyr, mae ynglŷn â buddsoddi mewn sgiliau. Ar gyfer unigolion, yn cynnwys pobl ifanc a’r rhai sy’n darparu cyngor gyrfaoedd, mae ynglŷn â gwneud penderfyniadau gwybodus ar ddewisiadau gyrfa. Ar gyfer gwneuthurwyr polisi, mae ynglŷn â phenderfynu cyfeiriad y dyfodol. Ac i ddarparwyr, mae ynglŷn â chanolbwyntio cymorth yn yr ardaloedd cywir. Mae’n sicr y gall pob un o’r grwpiau hyn feddwl am nifer o enghreifftiau diweddar o’r ffordd y defnyddiant wybodaeth am y farchnad lafur yn eu gwaith.
Wrth gwrs, nid yw wedi ei gyfyngu i wybodaeth yn unig. I fod o wir werth, mae angen i ddata a ffeithiau craidd gael eu dadansoddi a’u dehongli ac yn aml eu gweithredu mewn sefyllfaoedd neilltuol.
Mae prosiect newydd gan Lywodraeth Cymru yn ymateb i’r cais am help i ganfod eu ffordd drwy’r farchnad lafur cynyddol gymhleth ac am fynediad rhwyddach, cliriach a gyda mwy o gyfeiriad i’r wybodaeth a ddadansoddwyd ac a ddehonglwyd.
Dan arweiniad Isadran Busnes a Sgiliau Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, mae gan y prosiect LMI ddau brif nod - yn gyntaf, i ddatblygu’r sylfaen LMI sydd ar gael yng Nghymru ac yn ail, i wella cyfathrebu LMI mewn fformatau mwy hylaw ac wedi’u targedu. Y brif nod yw sicrhau mwy o ddefnydd o LMI a galluogi defnyddwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ac alinio cyflenwad a galw sgiliau yn well i anghenion y farchnad.
Hoffem glywed gennych os oes gennych unrhyw sylwadau am y mathau o LMI sydd o werth i chi yn eich gwaith a sut y bu LMI o fudd i chi. Ar gyfer hyn a gwybodaeth bellach am y prosiect, cysylltwch os gwelwch yn dda â Rachel Stephens, Uwch Reolwr Polisi Sgiliau Llywodraeth Cymru yn rachel.stephens2@wales.gsi.gov.uk.