
Mae prifysgolion Cymru wedi cael cymhelliad gwerth £10 miliwn i gynyddu eu gallu i godi arian. O dan y cynllun arian cyfatebol ar gyfer rhoi gwirfoddol, bydd CCAUC yn darparu arian ychwanegol – cyfatebol – ar gyfer rhoddion y mae sefydliadau addysg uwch (AU) yn eu derbyn gan gyrff ac unigolion, gan gynnwys cynfyfyrwyr. Cafodd y cynllun ei lansio’n swyddogol mewn digwyddiad yng Nghaerdydd heddiw gan Jane Hutt, AC, Gweinidog Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru.