
Mae’r rhan fwyaf o ysgolion, colegau a darparwyr addysg a hyfforddiant eraill yn perfformio’n dda, yn ôl Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru 2008-2009. Dros y deuddeng mis diwethaf bu gwelliant ar draws pob sector ac mae arolygwyr wedi gweld mwy o waith ‘da’ a ‘rhagorol’ na gwaith ‘gwael’ neu ‘anfoddhaol’. Mae’r adroddiad, fodd bynnag, yn tynnu sylw hefyd at y ffaith fod angen gwella’r ddarpariaeth addysg a hyfforddiant ar fyrder mewn rhai achosion, gan fod gormod o ddysgwyr yng Nghymru’n cael tangyflawni – yn enwedig y dysgwyr ‘mwy galluog a dawnus’ a phobl ifanc o gefndiroedd dan anfantais.