
Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno ehangu ac ymestyn y defnydd o wybodaeth am y farchnad lafur (LMI) ar draws Cymru. Dyma'r cyntaf o nifer o erthyglau.
Mae ymchwil yn dweud wrthym fod gormod o bobl ifanc yn meddu cymwysterau sydd ddim yn cyfateb i’r hyn mae cyflogwyr yn chwilio amdano ac nad yw cyflogwyr yn cyfathrebu’n ddigon clir y cyfleoedd sydd ar gael yn y gweithle.
Ond a oes yna fwlch go iawn rhwng yr ystafell ddosbarth a byd gwaith?
Darparodd y digwyddiad ‘Sgwrs go iawn’ fforwm ar gyfer arweinwyr busnes a phobl ifanc, ynghyd â’u hathrawon a chynhorwyr gyrfa, i drafod y materion hyn a dynodi'r pethau oedd yn debyg ac yn wahanol yn eu canfyddiadau.
Canolbwyntiodd y digwyddiad hynod ryngweithiol hwn, yr ail yn y gyfres bresennol, ar y sgiliau sy’n angenrheidiol i gael swydd, ac ar ffynonellau cyngor a gwybodaeth am yrfaoedd.
Ym maes sgiliau, roedd cytundeb cryf mai ‘darllen’, ‘defnyddio TG’ a ‘cymwysterau’ yw’r sgiliau ‘caled’ pwysicaf yn yr amgylchedd gwaith, Cytunai’r gynulleidfa hefyd mai ‘agweddau cadarnhaol a chymhelliant’ a ‘sgiliau cyfathrebu’ yw’r sgiliau ‘meddal’ pwysicaf sy’n angenrheidiol.
Tra bod cyfranogwyr yn cydnabod fod i bob sgil ei gwerth, teimlai nifer o bobl ifanc nad yw rhai sgiliau, yn enwedig sgiliau cyfathrebu, bob amser yn cael eu dysgu mewn ysgolion. Roedden nhw hefyd eisiau gwybod sut i ddarganfod pa sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Mewn trafodaethau am ffynonellau cyngor a gwybodaeth, pleidleisiodd y bobl ifanc yn unfrydol dros ‘gynghorwyr gyrfaoedd a chanolfannau gwaith’ fel y lle ‘swyddogol’ cyntaf i alw, gyda’r ‘rhyngrwyd’ yn cael ei nodi fel y lle cyntaf y bydden nhw’n mynd i gael gwybodaeth a chyngor ‘answyddogol’.
Roedd teulu a ffrindiau’n parhau’n ddylanwad cryf wrth ddewis gyrfa, a thra bod y rhyngrwyd yn cael ei defnyddio’ helaeth gan bobl ifanc i ddarganfod gwybodaeth, byddai llawer o bobl ifanc yn troi yn y diwedd at ffynonellau mwy ‘swyddogol’ i gael gwir arweiniad. Dangosodd adborth fod yn well gan bobl ifanc gyngor wyneb-yn-wyneb ac fe fydden nhw’n gwerthfawrogi cyfleoedd i gyfarfod cyflogwyr er mwyn deall swyddi mewn mwy o fanylder.
Roedd pobl ifanc a fynychodd y digwyddiad yn teimlo fod y cyfle i siarad wyneb-yn-wyneb gyda chyflogwyr yn ddefnyddiol iawn. Dywedon nhw: “Roedd siarad gyda chyflogwyr yn llesol iawn” a “Roedd yn ein galluogi ni fel myfyrwyr i adnabod bath mae cyflogwyr yn ei ddisgwyl gennym ni a vice versa.”
O ran darganfod swydd, y rhyngrwyd a gafodd y bleidlais fel y ffynhonnell gyntaf ar gyfer pobl ifanc. Roedd hyn mewn gwrthgyferbyniad llwyr â’r ffaith fod y rhan fwyaf o gyflogwyr yn dal i ffafrio papurau newydd ar gyfer hysbysebion recriwtio. Yn ddiddorol, fodd bynnag, pan fydd prosesau ymgeisio ar-lein yn cael eu defnyddio, dywedodd pobl ifanc y gall y rhain fod yn rhwystr am fod angen yn aml mewnbynnu ‘yn union beth mae cwmni yn chwilio amdano’. Roedd cyflogwyr a phobl ifanc fel ei gilydd yn cytuno fod rhwydweithio a ‘pwy ydych chi’n adnabod’ yn chwarae rhan bwysig wrth ddarganfod swydd.
Roedd cyflogwyr yn y digwyddiad yn cydnabod efallai y gallen nhw fod yn fwy tryloyw ynglÅ·n â’r cyfleoedd sydd ar gael yn eu cwmnïau ac y gallen nhw hefyd ystyried newid eu prosesau recriwtio. Dynododd pobl ifanc angen am gyngor ar sut i wella’u CVs a sut i arddangos ‘galluoedd trosglwydiadwy’, yn ogystal â’r angen am gyngor ar sut i lenwi ceisiadau am swyddi.
Dywedodd un o’r cyflogwyr a fynychodd y digwyddiad, “Mae hyn wedi rhoi llawer iawn o wybodaeth. Mae wedi fy neffro ynglÅ·n â’n cyfrifolodeb cymdeithasol fel cyflogwyr.”
Roedd yr economi bresennol, ‘argaeledd swyddi’ a’r amser sylweddol y mae’n ei gymryd i ddarganfod swydd, yn feysydd pryder allweddol i bobl ifanc yn y gynulleidfa. Nododd rhai y gallai teithio fod yn rhwystr rhag cael eu cyflogi.
O ran symud ymlaen yn eu gyrfa, a chyflogau, nododd pobl ifanc fod boddhad yn eu gwaith yn bwysicach na chyflog. Dangosodd adborth hefyd fod datblygiad sgiliau parhaus yn cael ei gydnabod fel rhywbeth pwysig ar gyfer datblygiad gyrfa. Nododd cyflogwyr bryderon ynglÅ·n â’u gallu i gadw staff rhag symud ynlaen ar ôl iddyn nhw fuddsoddi yn natblygiad eu sgiliau. Cafwyd trafodaethau am y pecynnau cadw staff sy’n cael eu cynnig gan rai cyflogwyr i reoli’r risg honno.
Roedd y digwyddiad yn cael ei weld gan y bobl ifanc a’r cyflogwyr fel ffordd delfrydol i ddod â nhw at ei gilydd, gan nodi’r hyn sy’n debyg a’r gwahaniaethau rhwng y ddwy ochr. Dywedodd un cyflogwr: “Mae hwn yn gyfle gwych i bobl ifanc ac oedolion drafod y matererion hyn yn agored.” Adleisiwyd hyn gan un o’r bobl ifanc oedd yn bresennol, a ddywedodd, “Roedd y cyfathrebu rhwng cyflogwyr a myfyrwyr yn wirioneddol dda ac yn ddefnyddiol dros ben.”
Cytunodd y cyflogwyr a’r bobl ifanc fod digwyddiadau fel hyn yn hynod ddefnyddiol ac yn help i leihau’r bwlch rhwng yr ystafell ddosbarth a byd gwaith. Yn benodol, gellid gwneud mwy ynghylch sgiliau meddal ac ymwybyddiaeth o gyfleoedd gyrfa, tra byddai cymorth i fyfyrwyr i egluro’u hamcanion a dyheadau personol hefyd yn fuddiol.
Hoffem glywed gennych os oes gennych unrhyw sylwadau am y mathau o LMI sydd o werth i chi yn eich gwaith a sut y bu LMI o fudd i chi. Ar gyfer hyn a gwybodaeth bellach am y prosiect, cysylltwch os gwelwch yn dda a Rachel Stephens, Uwch Reolwr Polisi Sgiliau Llywodraeth Cymru yn rachel.stephens2@wales.gsi.gov.uk.