
Datblygwyd y Polisi Cwynion Enghreifftiol a Chanllawiau ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gan Grŵp Cwynion Cymru o dan gadeiryddiaeth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Dylid edrych ar y Polisi fel canllawiau anstatudol sydd wedi’i ddatblygu ar gyfer cydweithwyr sy’n ymdrin â chwynion sy’n ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus. Y canllawiau cyfatebol perthnasol ar gyfer ysgolion yw Cylchlythyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru 03/2004 Gweithdrefnau Cwyno Cyrff Llywodraethu Ysgolion. Mae’r cylchlythyr hwnnw yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd er mwyn ystyried y Polisi Enghreifftiol a chaiff y fersiwn ddiweddaraf ei chyhoeddi yn hwyrach eleni.