
Mae newidiadau parhaus yn amodau economaidd y Deyrnas Unedig wedi amlygu sefyllfa fregus pobl ifanc yn y gweithle.
Cymharol ychydig o gyflogwyr sy'n recriwtio pobl ifanc. Canfu Arolwg Cenedlaethol Sgiliau Cyflogwyr 2011 (NESS2011) fod llai na chwarter cyflogwyr (24 y cant) wedi recriwtio rhywun yn syth o addysg yn y 2 flynedd cyn yr arolwg.
Ni fedrir gwadu fod gan rhai cyflogwyr farn negyddol iawn am gyflogi pobl ifanc. Maent yn cwestiynu pa mor barod ydynt am waith, eu sgiliau sylfaenol a'u hagweddau. Un broblem gyda hyn yw eu bod yn tueddu i ystyried pob person ifanc yr un fath - hyd yn oed pan nad yw hyn yn wir - ac fel canlyniad maent yn amharod i recriwtio unrhyw un o'r grŵp oedran yma.
Er nad oes gan bob cyflogydd swyddi sy'n addas ar gyfer pobl ifanc, mae rhai cyflogwyr sydd â swyddi addas yn defnyddio eu tybiaethau negyddol o bobl ifanc fel rheswm i'w cau allan o gyfleoedd swyddi.
Mae adroddiad gan Comisiwn Cyflogaeth a Sgiliau y Deyrnas Unedig (UKCES) yn crynhoi'r achos busnes dros gyflogi pobl ifanc.
Dengys yr adroddiad, er gwaethaf y canfyddiadau negyddol hyn, y gellir hefyd weld pobl ifanc fel ffynonellau o fudd posibl i fusnesau. Er enghraifft, gall pobl ifanc ddod â safbwyntiau newydd i'r busnes, maent yn barod ac yn meddu ar y gallu i ddysgu'n gyflym, a darparu cyfleoedd dysgu ar gyfer staff presennol.
Gall cyflogi pobl ifanc fod yn gost-effeithlon a darparu'r sgiliau a'r gweithlu fydd eu hangen yn y dyfodol, yn ogystal â bod yn ffynhonnell o reolaeth yn y dyfodol.
Dywed yr adroddiad y gall hyd yn oed yr ofn o drosiant uchel ymysg recriwtiaid ifanc fod yn ddi-sail, gyda phobl ifanc yn deyrngar i'r busnesau sy'n rhoi 'cyfle' iddynt.
Beth bynnag, hyd yn oed os oes trosiant ymysg cyflogeion ifanc, mae'r busnes wedi ychwanegu at y gronfa leol, neu sectoraidd, o weithwyr y gall busnesau fanteisio ohoni yn y dyfodol.
Yn aml bydd profiad o gyflogi pobl ifanc yn newid barn negyddol cyflogwyr i fod yn safbwynt mwy cadarnhaol.
Daw'r adroddiad i'r casgliad nad dim ond gweithred o gyfrifoldeb cymdeithasol neu ddyngaredd yw recriwtio pobl ifanc ond penderfyniad busnes cadarn.
Mae mwy o wybodaeth ar y farchnad lafur (LMI) fel hyn ar gael ar wefan yr Arsyllfa Dysgu a Sgiliau.
Sut ydych chi'n defnyddio gwybodaeth ar y farchnad lafur wrth wneud penderfyniadau? Hoffem glywem gennych - cysylltwch â Rachel Stephens, Uwch Reolwr Polisi Sgiliau Llywodraeth Cymru.