
Sefydlodd Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 Ofqual (Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau) yn rheoleiddiwr annibynnol ar gymwysterau, arholiadau ac asesiadau. Er hynny, oeddech chi’n gwybod mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am reoleiddio cymwysterau sy’n cael eu darparu yng Nghymru?
Mae Llywodraeth Cymru’n rheoleiddio cymwysterau (heblaw graddau prifysgol), cymwysterau ac asesiadau yng Nghymru ar ran Gweinidogion Cymru.
Mae gennyn ni swyddogaethau statudol o dan Ran V o Ddeddf Addysg 1997, ac mae’r rhain yn cynnwys pethau fel sicrhau bod gan y cyrff dyfarnu sy’n cynnig cymwysterau adnoddau priodol i wneud hynny; bod y cymwysterau eu hunain yn addas at eu diben; a bod y safonau mewn cymwysterau’n cael eu cynnal dros amser.
Rydyn ni’n cydweithredu â’n cyd-reoleiddwyr yn Lloegr (Ofqual) a Gogledd Iwerddon (CCEA – Cyngor y Cwricwlwm, Arholiadau ac Asesu) i sicrhau ymagwedd gyson a chydlynol at reoleiddio ledled y tair gwlad.
Yr Is-adran Cymwysterau a Dysgu yn yr Adran Addysg a Sgiliau (AdAS), sy’n gwneud y gwaith o ddydd i ddydd yn y maes hwn a gallwch gysylltu â’r is-adran drwy info.quals@cymru.gsi.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth am ein swyddogaethau rheoleiddio, ewch i http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/qualificationsinwales/?skip=1&lang=cy