Hafan
/ Newyddion / National Curriculum Assessments of 7, 11 and 14 Year Olds, 2007
National Curriculum Assessments of 7, 11 and 14 Year Olds, 2007
15.10.07
Mae'r Datganiad Cyntaf Ystadegol hwn yn rhoi canlyniadau terfynol disgyblion 7, 11 ac 14 oed yn asesiadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn 2007 yng Nghymru. Mae'n diweddaru'r wybodaeth a gyhoeddwyd yn SDR 121/2007 ar 4ydd o Fedi 2007.
Datganiad Ystadegol 145/2007 (PDF 684kB)
Dyma brif bwyntiau'r Datganiad:
Disgyblion 7 mlwydd oed - Cyfnod Allweddol 1
- Roedd canran y disgyblion a lwyddodd i gyrraedd o leiaf y lefel ddisgwyliedig yn is ym mhob pwnc o'i gymharu â 2006, ond mae hyn yn uwch gan o leiaf 1 pwynt canrannol ym mhob pwnc nag yr oedd yn 1999;
- Llwyddodd y merched yn well na'r bechgyn ym mhob pwnc.
Disgyblion 11 mlwydd oed - Cyfnod Allweddol 2
- Roedd canran y disgyblion a lwyddodd i gyrraedd o leiaf y lefel ddisgwyliedig yn is ym mhob pwnc o'i gymharu â 2006, ond mae hyn yn uwch gan o leiaf 9 pwynt canrannol ym mhob pwnc nag yr oedd yn 1999;
- Llwyddodd y merched yn well na'r bechgyn ym mhob pwnc.
Disgyblion 14 mlwydd oed - Cyfnod Allweddol 3
- Yn 2007, roedd canran y disgyblion a lwyddodd i gyrraedd o leiaf y lefel ddisgwyliedig yn uwch yn Saesneg ac yn y Gymraeg, ond yn is mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth o'i gymharu â 2006.
- Ag eithrio Cymraeg sydd wedi codi 1 pwynt canrannol, mae'r perfformiad ym mhob pwnc wedi codi o leiaf 6 pwynt canrannol ers 1999.
- Llwyddodd y merched yn well na'r bechgyn ym mhob pwnc.
< nôl