
Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar y modd y mae ysgolion yn mynd i’r afael â thlodi plant ac anfantais yng Nghymru. Mae’n tynnu ar dystiolaeth o’r tri adroddiad Estyn ar fenter Rhagori a gyhoeddwyd yn 2007, 2008 a 2009, ac ar adroddiadau arolygu ar ysgolion ac awdurdodau lleol. Hefyd, mae’n gwneud sylwadau ar berfformiad dysgwyr difreintiedig yng Nghymru ac yn ystyried tystiolaeth ymchwil berthnasol. Mae’n nodi enghreifftiau o arfer effeithiol ac yn awgrymu camau gweithredu pellach y gellir eu cymryd i wella perfformiad disgyblion difreintiedig. Mae’r adroddiad wedi’i osod yng nghyd-destun polisi datblygiadol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar dlodi plant.