
Mae'r Gweinidog dros Addysg, Jane Hutt, wedi llongyfarch myfyrwyr Cymru ar eu llwyddiant yn eu harholiadau wrth i ganlyniadau Safon Uwch, Safon Uwch Gyfrannol a Chymhwyster Bagloriaeth lefel Uwch Cymru gael eu cyhoeddi. Mae'r canlyniadau sydd wedi'u cyhoeddi yn dangos y gyfradd lwyddo gyffredinol ar gyfer Safon Uwch oedd 97.6%