
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cytuno ar brif Fesur addysg newydd i roi’r hawl am y tro cyntaf i blant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig apelio mewn perthynas â’u haddysg. Bydd Mesur Addysg (Cymru) yn rhoi’r hawl i blant a phobl ifanc eu hunain gyflwyno apeliadau sy’n ymwneud â’u hanghenion addysgol arbennig a hawliadau gwahaniaethu ar sail anabledd i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (y Tribiwnlys).