
Heddiw, cyhoeddodd John Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, ddogfen ymgynghori ar gynigion Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2008. Mae’r mesur arfaethedig yn gam sylweddol ymlaen o ran rhoi’r Llwybrau Dysgu 14-19 ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru ar waith.
Croesewir ymatebion gan bawb sydd â diddordeb yn y Llwybrau Dysgu 14-19. Daw’r ymgynghoriad i ben ar 28 Ebrill 2008.