
Mae Jane Hutt, y Gweinidog dros Addysg, wedi lansio fenter newydd ‘CânSing’, sy’n anelu at helpu plant ysgol yng Nghymru i ddarganfod eu lleisiau a dechrau canu. Wrth ymuno â Shaheen Jafargholi, sydd â llais sydd wedi gwneud argraff anhygoel ar y byd, yn ei ysgol yn Abertawe i wneud y cyhoeddiad, dywedodd y Gweinidog fod y prosiect yn cael ei gefnogi gan bron £476,000 o gyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru dros gyfnod o dair blynedd.