
Mae tri o’r cyrff sy’n sicrhau ac yn goruchwylio agweddau ar ansawdd ym Mhrifysgolion Cymru wedi llofnodi cytundeb heddiw sy’n eu rhwymo i weithio’n nes â’i gilydd. Cafodd y Memorandwm Dealltwriaeth ei lofnodi heddiw yng Nghaerdydd gan Anthony McClaran, Prif Weithredwr yr ASA (QAA), yr Athro Philip Gummett, Prif Weithredwr Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, a’r Dr Bill Maxwell, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Mwy o wybodaeth