
Mae cylchlythyr cynradd Dysg wedi ei baratoi’n unswydd ar gyfer ymarferwyr yn y cyfnod sylfaen a’r sector cynradd. Bydd y cylchlythyr yn cael ei gyhoeddi bob mis.
Mae adroddiad sy’n awgrymu sut y gall mwy o arian gyrraedd gwasanaethau addysg rhen flaen wedi cael ei gyhoeddi gan y Gweinidog dros Addysg Leighton Andrews. Mae’r adroddiad yn amcangyfrif y gost o weinyddu addysg ar draws Cymru. Mae’n ystyried nifer y bobl sy’n gweithio i weinyddu’r system addysg ac yn arbennig, mae’n nodi’r cyfleoedd sydd ar gael i symud yr adnoddau sydd ar gael i weinyddu’r system addysg i ddarparu gwasanaethau rheng flaen. Datganiad i’r wasg, yr adroddiad (Saesneg yn unig), crynodeb gweithredol a’r cefndir
Mae'r wefan hon yn adnodd canolog i ysgolion ac awdurdodau lleol ei defnyddio i ddysgu mwy am y fframwaith, digwyddiadau FfEY ac yn y pendraw bydd yn galluogi ysgolion i edrych ar enghreifftiau o arfer da ac i ychwanegu enghreifftiau o'u gwaith da eu hunain.
Mae'r Strategaeth Tlodi Plant yn cyflwyno gweledigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru a gwella’r canlyniadau i blant a rhieni o deuluoedd incwm isel. Datganiad i’r wasg a’r dogfen ymgynghori
Y llinell gymorth hon – o’r enw Meic – yw’r un gyntaf o’r fath i gael ei rhoi ar waith ar draws Cymru gyfan. Rhoddwyd dros £450,000 o gyllid Llywodraeth y Cynulliad i’r llinell gymorth, a bydd yn helpu plant a phobl ifanc gyda materion sy’n effeithio arnyn nhw, yn enwedig pan fyddan nhw’n teimlo bod eu barn yn cael ei anwybyddu neu ei ddiystyru. safle we
Pwrpas y datganiad hwn yw rhoi trosolwg o'r cyfarwyddyd o ran Datblygiad Proffesiynol Parhaus, Rheoli Perfformiad a Safonau Proffesiynol ar gyfer ymarferwyr addysgol (y tu allan i addysg uwch) yng Nghymru yn dilyn yr adolygiad a gynhaliwyd rhwng Medi a Rhagfyr 2009.
Bwriad y ddogfen yw esbonio datblygiad rhaglen fuddsoddi bwysig tymor hir ar gyfer Cymru – sydd â’r bwriad o sefydlu cenhedlaeth o ysgolion a fydd yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Dogfen wybodaeth a’r cefndir
Mae ysgolion ar draws Cymru wedi dechrau gweithio ar y cynllun Casglu Data Cenedlaethol ar gyfer 2010, sef y casgliad electronig o Ddata Asesiadau athrawon ar gyfer Cyfnodau Allweddol 1, 2 a 3.
O 5 Mai 2010, dim ond y term 'awdurdod lleol' fydd yn cael ei ddefnyddio mewn deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth yn hytrach na 'Awdurdod Addysg Lleol' ac 'Awdurdod Gwasanaethau Plant'. Bydd hynny'n golygu bod y ddeddfwriaeth yn cyd-fynd â'r arfer cyfredol ac ni fydd yr ystyr yn newid yn ei hanfod.
Mae dwy daflen newydd wedi cael eu llunio i hysbysu disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd am ddefnyddio ffonau symudol yn ddiogel. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi datblygu'r taflenni gyda'r Asiantaeth Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Adran Iechyd a grwpiau ffocws allanol sy'n canolbwyntio ar blant fel y Ddraig Ffynci, yn ogystal â nifer o ysgolion yng Nghymru.
Mae’r ddogfen hon yn rhoi canllawiau ar gyflawni aliniad rhwng asesu ar gyfer dysgu ac asesu’r dysgu ei hun. Mae asesu effeithiol a’r systemau sy’n sail iddo, yn allweddol i ddysgu ac addysgu o ansawdd uchel, ac ar gyfer ysgolion llwyddiannus.
Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu 10 gweithgaredd hyfforddiant mewn swydd (HMS) gyda’r pwyslais ar addysgu sgiliau ysgrifennu ym mhob pwnc ar draws y cwricwlwm yng Nhyfnodau Allweddol 2 a 3. Y nod yw darparu canllaw ar ddulliau addysgu sgiliau ysgrifennu i helpu dysgwyr i ddod yn ysgrifenwyr mwy effeithiol.
Nod y canllawiau hyn yw rhoi cyngor i ysgolion ac Awdurdodau Lleol ynghylch diwallu anghenion addysgol plant a phobl ifanc ag anghenion meddygol.
Ysgolion yng Nghymru: Perfformiad Mewn Arholiadau 2009
Cyfrifiad Ysgolion, 2010 (dros dro)
Wythnos Cerdded i'r Ysgol yn helpu plant i Newid am Oes
Gweinidog i gwrdd ag arbenigwr addysg rhyngwladol i drafod polisi arloesol
Gweinidog yn ymweld â gogledd Cymru i dynnu sylw at y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg
Gweinidog yn mynychu seremoni i ddechrau’r gwaith ar ysgol newydd
Cynhadledd Genedlaethol ar Dlodi Plant
Arian i helpu teuluoedd i gael gwaith
Dyfalwch pwy - gweithgaredd syml sy’n rhan o Becyn y Cyfnod Sylfaen, Ti a Fi.
Mae modd defnyddio’r adnodd hwn ar gyfer y Cyfnod Sylfaen yn y naill iaith neu’r llall neu fel ymarfer adolygu ar gyfer Cymraeg Ail Iaith yng Nghyfnod Allweddol 2.
Cydweithiodd GCaD Cymru â Gwasg UWIC i greu gweithgareddau fideo a gweithgareddau rhyngweithiol wedi'u seilio ar waith celf Cefyn Burgess ar Gapeli.
Mwy o adnoddau o’r GCaD Cymru
Mae’r Cynllun Strategol 2010-2013 yn amlinellu gweledigaeth, gwerthoedd a diben Estyn dros y tair blynedd nesaf. Mae’r Cynllun Blynyddol 2010-2011 wedi’i gysylltu’n glir â’r Cynllun Strategol lefel uwch ac mae’n rhoi manylion am y ffordd y bydd yr arolygiaeth yn cyflawni ei hamcanion strategol dros y flwyddyn nesaf. Mae’r cynllun hefyd yn amlinellu gweithgarwch arolygu a meysydd adroddiadau cylch gwaith arfaethedig Estyn ar gyfer 2010-2011.
Mae Estyn yn gwahodd ceisiadau gan benaethiaid, dirprwy benaethiaid a phenaethiaid cynorthwyol i hyfforddi’n Arolygwyr Cymheiriaid ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg. Bydd Arolygwyr Cymheiriaid yn aelodau llawn o dimau arolygu o Fedi ymlaen. Mae’n bosibl y bydd ymgeiswyr wedi cael profiad o weithio ar arolygiadau Estyn neu wedi hyfforddi fel Aseswyr Cymheiriaid eisoes ond nid yw hyn yn hanfodol. Bydd rhaglen hyfforddi/asesu pedwar diwrnod yn cael ei threfnu ym Medi. Bydd manylion llawn ar gael yn www.estyn.gov.uk ar 7 Mehefin ac mae’n rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 5 Gorffennaf 2010.
Datganiad i’r wasg, yr adroddiad ac ymateb LlCC
Datganiad i’r wasg a’r adroddiad
Os oes diddordeb gennych mewn newyddion ar gyfer y sector ôl 11 oed, darllenwch gylchlythyr Dysg
Y cwricwlwm ysgol yng Nghymru
Ariannu Ysgolion
Blynyddoedd cynnar, cysylltiadau defnyddiol
Casglu Data Cenedlaethol
Dyddiadau Tymor a Gwyliau Ysgol 2009-10
Canllaw i’r Gyfraith i Lywodraethwyr Ysgolion
GCaD Cymru
Llywodraethwyr Cymru
Cylchlythyr Cadwyn ar gyfer llywodraethwyr
Bydd y cylchlythyr nesaf yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf
*If you would like to receive the newsletter in English, please contact rhys.davies4@wales.gsi.gov.uk