
Ar ôl bron i chwarter canrif o holi degau o filoedd o bobl a gofyn miliynau o gwestiynau, gorffennodd Margaret ar nodyn uchel gan oruchwylio Arolwg enfawr Sgiliau Dyfodol Cymru 2003, arolwg o dros 12,000 o bobl a fydd yn lasbrint ar gyfer bob rhaglen datblygu sgiliau yng Nghymru.
Mae Margaret Baldwin, sy’n byw yn Oakdale, Coed-duon, wedi bod yn gweithio yn y diwydiant ymchwil am dros 24 mlynedd – y 17 olaf fel Rheolwr Rhanbarthol MORI yng Nghymru a De Orllewin Lloegr. Mae hi wedi bod yn gysylltiedig â’r ddau arolwg mwyaf a gynhaliwyd yng Nghymru ac yn awr, yn 65 mlwydd oed, mae Margaret wedi curo ar ei drws olaf ac mae’n edrych ymlaen at ymddeoliad tawel gyda’i gŵr Neil.
Dywedodd Margaret: “Cyrhaeddais oedran ymddeol cyn diwedd yr arolwg ond roedd angen pobl brofiadol ac ymroddgar iawn a oedd yn barod i weithio ym mhob tywydd ar brosiect mor enfawr”.
Barn Margaret oedd fod yr arolwg yn ddiweddglo perffaith i’w gyrfa gyda MORI a chafodd gymorth Helen Kay, Rheolwr Rhanbarthol Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr.
Roedd FSW 2003 yn arolwg a noddwyd gan yr ESF o’r math o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer swyddi yng Nghymru, yn cynnwys sgiliau cyfathrebu, sgiliau gweithio fel rhan o dîm a sgiliau arweinyddiaeth. Comisiynwyd y prosiect gan y Cyngor Cenedlaethol – ELWa, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru, Gyrfa Cymru a llu o sefydliadau partner eraill.
Mae gweithwyr maes wedi gofyn ystod o gwestiynau i 6,000 o unigolion a 6,000 o gyflogwyr ynglÅ·n â’r math o sgiliau sydd eu hangen yn y gweithle a bydd y canlyniadau ar gael ym mis Hydref.
Dywedodd Margaret: “Roedd y nifer enfawr o bobl y bu ein timau yn eu holi yn golygu bod yn rhaid cael ymgyrch cyd-drefnedig wedi ei drefnu yn fanwl gywir i gwblhau’r arolwg ar amser. Bu cannoedd o bobl yn troedio ledled Cymru i siarad â sampl gynrychiadol o bobl.
“Roedd yr arolwg mor enfawr bu’n rhaid i ni fenthyg cyfwelwyr MORI o unedau eraill ar hyd y wlad. Cafwyd cymorth o Lundain a Plymouth i guro ar y drysau cywir.
“Roedd cyfeiriadau’r bobl i’w holi wedi eu dewis yn barod er mwyn sicrhau cynrychiolaeth deg o boblogaeth Cymru ond canlyniad hyn oedd fod un o arolygon mwyaf Cymru hefyd yn un o’r rhai mwyaf anodd i’w gwblhau. Os nad oedd y person a benodwyd adref roedd yn rhaid i’n cyfwelwyr ddychwelyd i’r cyfeiriad nes eu bod yn gallu siarad ag aelod o’r teulu hwnnw,” ychwanegodd Margaret.
Yn wreiddiol, hyfforddwyd Margaret i fod yn nyrs ddeintyddol ac yna bu’n gweithio gyda Glo Prydain cyn magu teulu. Ym1979 ymunodd Margaret â Marplan, un o’r asiantaethau ymchwil mwyaf blaenllaw, a oedd yn cynnig oriau hyblyg fel y gallai hi ofalu am ei theulu a gweithio hefyd. Ym 1985 penodwyd Margaret yn ynad lleol ac ym1986 fe’i penodwyd yn Rheolwr Rhanbarthol i MORI.
Bu’r ddwy rôl yn gweithio mewn cytgord ac yn ei galluogi i dreulio amser gyda’i dau fab ac yn fwy diweddar gyda’i thri ŵyr. Mae MORI bob amser wedi cynorthwyo cyflogeion sydd â chyfrifoldebau cymdeithasol ac mae hyn wedi cynorthwyo Margaret i gael amser i fod yn rhiant ac yn Ynad lleol.
Eleni bydd Arolwg Sgiliau Dyfodol Cymru yn mynd ymhellach na’r un blaenorol ac yn dangos ymagweddau ac agweddau tuag at sgiliau a dysgu ymhlith unigolion a chyflogwyr yng Nghymru. Dros dreigl amser mae’r arolwg wedi dod yn ddolen gyswllt hanfodol rhwng cyflogwyr, unigolion a’r rhai hynny sy’n datblygu darpariaeth ddysgu yng Nghymru.
Gan fod y data i gyd wedi’i gasglu, mae partneriaeth FSW bellach yn canolbwyntio ar ansawdd, gwirio’r canlyniadau ac ysgrifennu adroddiadau. Bydd ffyrdd newydd o gyflwyno’r wybodaeth yn cael eu datblygu, gan gynnwys cronfa ddata rhagolwg swyddi ar-lein ar gyfer pobl Cymru sy’n chwilio am waith, adnoddau ar gyfer athrawon gyrfaoedd a mynediad hawdd i’r rhyngrwyd i bobl sy’n cynllunio cyrsiau ar gyfer colegau a Phrifysgolion.
Dywedodd Gaynor Witheridge, Cadeirydd Grŵp Gwybodaeth Gyrfa Cymru ac aelod o Fforwm Ymchwil Sgiliau Dyfodol Cymru: “Hoffem ddiolch i bawb a rhoddodd o’u hamser i gwblhau’r arolwg yn ogystal â phob aelod o’r tîm gwaith maes sydd wedi gweithio mor galed i sicrhau bod yr arolwg hwn yn un llwyddiannus ac yn arbennig i Margaret ac iddi hi rydym yn dymuno ymddeoliad hapus iawn.
“Ein cam nesaf yw cyflwyno’r data mewn ffordd sy’n gwneud y canlyniadau mor hygyrch â phosibl i gynulleidfaoedd eang.
“Diolch i ymdrechion Margaret a’i thîm ymroddgar, yn fuan bydd gan ymgynghorwyr gyrfaoedd, cynllunwyr cwricwlwm, awdurdodau addysg lleol, Consortia Cymunedol dros Addysg a Hyfforddiant (CCAU), staff AD, llunwyr polisi, asiantaethau sydd â diddordeb ac unigolion sy’n chwilio am gyngor am sgiliau well gwybodaeth am weithlu Cymru a’i anghenion sgiliau.
Dywedodd Rachel Williams, Cyfarwyddwr Cyswllt MORI: “Mae’n anodd dod o hyd i oruchwylwyr fel Margaret. Mae ganddi’r profiad a’r sgiliau cymdeithasol a oedd yn gwneud i waith maes edrych yn hawdd. Ei phrif nodwedd yw ei hymroddiad, a oedd yn glir pan oedd ymddeol yn bygwth ei rhwystro rhag cwblhau FSW 2003.
“Bydd ei gwasanaeth hir i MORI ac i bobl Cymru yn gymorth mawr i wneud gwahaniaeth ym mywydau’r rhai hynny sy’n ceisio am ragor o sgiliau i wella eu cyfleoedd i gael swyddi,” ychwanegodd Rachel.
Bydd canlyniadau Arolwg FSW 2003 ar gael ar-lein o fis Hydref ymlaen – gweler gwefan FSW www.sgiliaudyfodolcymru.com am ragor o wybodaeth.