
Yn dilyn honiadau diweddar yn y Daily Telegraph ynghylch safonau arholi a hyder yn y system arholiadau, mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, wedi cyhoeddi y bydd arholiad TGAU CBAC mewn Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, a fyddai wedi cael ei gynnal ar 17 Ionawr 2012, yn cael ei ohirio hyd fis Mawrth.